Mynd o Dan y Ddaear | Y Tu Mewn i Fwynglawdd Aur Rhufeinig

Jul 18, 12:00 AM

Episode image
Mae'r podlediad hwn wedi'i recordio a'i gyflwyno yn Saesneg.

Yn ddwfn o dan lethrau bryniau Sir Gaerfyrddin mae olion unig fwyngloddiau aur Rhufeinig hysbys y DU.

Gyda fflachlamp pen i arwain y ffordd, mae James Grasby yn mentro i'r gwagle i ddarganfod y cyfrinachau sy'n llechu yn y tywyllwch ac yn dod o hyd i ymdrechion arloesol y Rhufeiniaid i echdynnu'r metel gwerthfawr hwn.

[Hysbyseb gan ein noddwr] Noddir y bennod hon o’r podlediad gan y wefan hanes teulu Findmypast. Sut fywyd oedd gan weision domestig, gweithwyr a chymunedau lleol yn ein safleoedd treftadaeth mwyaf diddorol? Darganfyddwch sut roedd pobl o bob cefndir yn byw ac yn gweithio, a gyda phwy, mewn cannoedd o gofnodion cyfrifiad, am ddim, trwy gofrestru gyda Findmypast. Cewch wybod hefyd am y treial am ddim y gallech ei ddefnyddio i archwilio hanes eich teulu. I weld lle mae'r gorffennol yn mynd â chi, ewch i: findmypast.co.uk/national-trust

Cynhyrchiad
Cyflwynydd: James Grasby
Cynhyrchydd: Jack Glover
Dylunydd Sain: Jesus Gomez

Darganfod Rhagor
Mae Mwynglawdd Aur Rhufeinig Dolaucothi yn rhan o'r UK80, llwybr o leoedd gwerth eu gweld y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban yn gofalu amdanynt. Gallwch ddarganfod pob cam ar hyd y ffordd yn y  Grand Adventure Map, sef y map delfrydol ar gyfer cynllunio antur fawr drwy Brydain https://shop.nationaltrust.org.uk/national-trust-grand-adventure-map.html

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Dolaucothi a'i Hanes Rhufeinig, ewch i    https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/dolaucothi

Ymunwch â’r ŵyl archaeoleg eleni sy'n cael ei chynnal yn Nolaucothi ac eiddo eraill yr Ymddiriedolaeth  nationaltrust.org.uk/visit/wales/dolaucothi/events/01df4ea5-2586-4968-8836-84909387a9fd

Os hoffech gysylltu gydag adborth, neu os oes gennych stori sy’n ymwneud â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at podcasts@nationaltrust.org.uk